Mudiad celf o'r bedwaredd ganrif a’r bymtheg oedd Argraffiadaeth sydd wedi swyno pobl ledled y byd ers hynny. Gan newid y dirwedd gelf am byth, mae'r gweithiau hyn wedi ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid ifanc a phobl sy’n mwynhau celf.
Dwy o roddwyr mwyaf amlwg Amgueddfa Cymru yw'r chwiorydd Davies, sef Gwendoline a Margaret. Roedd y ddwy yn wyresau i David Davies, sef arloeswr yn niwydiant glo Cymru yn y 1800au, ac roeddent yn allweddol wrth sefydlu casgliad o weithiau celf o bwys rhyngwladol i bobl Cymru. Diolch i'r chwiorydd Davies, mae Amgueddfa Cymru yn dal un o'r casgliadau mwyaf arwyddocaol o weithiau celf Argraffiadol ac Ôl-Argraffiadol ledled y byd.
O Les Nymphéas gan Monet i La Parisienne gan Renoir, porwch drwy'r casgliad a chael eich cludo i fyd yr artistiaid Argraffiadol ac Ôl-Argraffiadol.