Beth yw Delweddau Amgueddfa Cymru?
Llyfrgell luniau yw Delweddau Amgueddfa Cymru sy’n cynnwys rhai o’r eitemau gorau o gasgliad cenedlaethol Cymru heb gyfyngiadau hawlfraint. Rydyn ni’n hynod falch o allu rhannu'r delweddau hyn sydd wedi'u curadu'n ofalus gyda chi yn y ffordd arbennig hon. Rydyn ni’n gobeithio y byddant yn cynnig ysbrydoliaeth a mwynhad i chi. Bydd polisi mynediad agored Amgueddfa Cymru yn sicrhau bod ein casgliadau sydd yn y parth cyhoeddus ar gael i bawb i’w mwynhau, i gael eu hysbrydoli ac at ddibenion ymchwil. Credwn fod mabwysiadu strategaeth mynediad agored yn caniatáu i bawb gael mynediad at ein casgliadau ac i’w defnyddio mewn ffyrdd arloesol. Mae hyn yn cynnwys gweithiau celf yn y parth cyhoeddus sydd wedi'u digideiddio, a ffotograffau hanesyddol yn ein casgliadau cymdeithasol, diwydiannol ac archaeolegol.
Yn bwysicaf oll, mae pob delwedd ar Delweddau Amgueddfa Cymru ar gael i'w lawrlwytho’n syth mewn cydraniad canolig – AM DDIM! Os mai cydraniad uchel rydych chi’n chwilio amdano, ebostiwch delweddau@amgueddfacymru.ac.uk
Pwy ydyn ni?
Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol ac un ganolfan gasgliadau wedi'u lleoli ledled Cymru. Mae ein safleoedd yn cynnwys hen bwll glo gweithredol, melin wlân a chwarel lechi. Mae gennym safle awyr agored yn llawn adeiladau hanesyddol o bob cwr o Gymru sydd wedi'u hail-godi. Mae un o'r Amgueddfeydd yng nghanol hen gaer Rufeinig, ac mae gennym ni amgueddfa yng nghanol dinas Caerdydd hefyd. Ond rydyn ni’n llawer mwy na'n hadeiladau.
Y casgliadau sydd yn ein gofal
Mae gennym dros 5 miliwn o wrthrychau yn ein casgliadau gan gynnwys hanes cymdeithasol a diwydiannol, y gwyddorau naturiol, celf ac archaeoleg. Mae ein casgliadau'n rhyngwladol eu cwmpas, yn amlddisgyblaethol ac yn unigryw o ran eu hystod a’u dyfnder. Mae ein casgliadau’n cynnwys popeth o arteffactau Rhufeinig a phaentiadau Argraffiadol i ddeinosoriaid, cregyn a thecstilau Cymreig hardd.
Mae ein casgliad Gwyddorau Naturiol yn cynnwys cofnod unigryw o hanes byd natur Cymru sy’n olrhain newid esblygiadol ac amgylcheddol dros gyfnod o gannoedd o filiynau o flynyddoedd. Mae'r casgliad Celf yn cynnwys gwaith dylunio, celf gymhwysol, ffotograffiaeth, celf hanesyddol a chyfoes. Mae'n gasgliad rhyngwladol pwysig o gelf Brydeinig ac Ewropeaidd, yn ogystal ag o ddiwylliannau eraill. Mae ein casgliadau Hanes ac Archaeoleg yn adrodd hanes Cymru, o 250,000 o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw, gyda sbesimenau cyfoes, cymdeithasol, diwydiannol ac archaeolegol. Mae gennym hefyd gasgliadau llyfrgell, archif, hanes llafar, a chasgliadau clyweledol sy'n cwmpasu ystod o wahanol feysydd ar draws disgyblaethau ein casgliadau.
Cysylltwch â ni
Trwyddedu Delweddau
Mentrau Amgueddfa Cymru Cyf
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
delweddau@amgueddfacymru.ac.uk
https://amgueddfa.cymru
Y wefan
Mae'r system rheoli asedau digidol a'r modiwl e-fasnach a ddefnyddir ar gyfer y wefan hon wedi'u datblygu gan gwmni iBase Media Services Ltd.