Golygfa o ynys San Giorgio gyda'i mynachlog, wedi ei phaentio o ben de-ddwyreiniol Fenis. Ar y dde bron na allwn weld toeau Santa Maria della Salute a cheg y Gamlas Fawr. Bob nos tua diwedd mis Tachwedd 1908 byddai Monet a'i wraig yn mynd ar daith mewn gondola i fwynhau'r 'machlud gwych sy'n unigryw yn y byd'. Dywedodd fod Fenis yn rhy brydferth i’w phaentio. Prynwyd y gwaith hwn gan Gwendoline Davies ym 1912, yn syth o arddangosfa Monet ym Mharis o'i olygfeydd o Fenis. Bydd yr olygfa hon yn gyfarwydd i bawb sydd wedi gweld ffilm ‘The Thomas Crown Affair’ o 1999.