Cymorth a Chefnogaeth

1. Beth yw Delweddau Amgueddfa Cymru?

Llyfrgell luniau yw Delweddau Amgueddfa Cymru sy’n cynnwys rhai o’r eitemau gorau o gasgliad cenedlaethol Cymru heb gyfyngiadau hawlfraint. Rydyn ni’n hynod falch o allu rhannu’r delweddau hyn sydd wedi’u curadu’n ofalus gyda chi yn y ffordd arbennig hon. Rydyn ni’n gobeithio y byddant yn cynnig ysbrydoliaeth a mwynhad i chi.

Yn bwysicaf oll, maen nhw i gyd ar gael i’w lawrlwytho’n syth mewn cydraniad canolig – AM DDIM! Os mai cydraniad uchel rydych chi’n chwilio amdano, ebostiwch delweddau@amgueddfacymru.ac.uk

2. Beth os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano?

Dim ond y dechrau yw hyn! Mae gennym filoedd o ddelweddau nad ydyn ni wedi’u huwchlwytho i’r wefan eto, felly os ydych chi’n chwilio am ddelwedd benodol i’w thrwyddedu nad yw ar gael eto, cysylltwch â ni. I weld catalog llawn ein casgliadau, ewch i Casgliadau Ar-lein.

Os nad yw’r ddelwedd sydd ei hangen arnoch wedi’i digideiddio o’r blaen, neu os nad yw cydraniad y ddelwedd ddigidol gyfredol yn bodloni eich gofynion, cysylltwch â ni i wneud cais am ffotograffiaeth newydd. Efallai y bydd angen talu ffi am y gwasanaeth hwn. E-bost delweddau@amgueddfacymru.ac.uk

3. Beth sydd ar gael ar Delweddau Amgueddfa Cymru?

Ar y dudalen hafan gallwch bori orielau o weithiau celf, ffotograffau hanesyddol a delweddau o’n gwrthrychau, sydd i gyd â pherthnasedd arbennig i Gymru. Fe welwch chi ddelweddau sy’n cynrychioli byd natur, yn ogystal â hanes archaeolegol, cymdeithasol a diwydiannol.

Nid yw pob delwedd ar y wefan wedi’i chynnwys yn yr orielau ar y dudalen hafan, felly os gwelwch chi rywbeth rydych chi’n ei hoffi, chwiliwch am y crëwr gan fod siawns dda bod mwy o eitemau ar gael. Dim ond y dechrau yw hyn a byddwn yn ychwanegu mwy a mwy o ddelweddau dros amser fel bod modd i chi ddod yn ôl dro ar ôl tro a dod o hyd i gynnwys newydd ar bob ymweliad.

4. Beth yw trwyddedu agored?

Bydd Polisi Mynediad Agored Amgueddfa Cymru yn sicrhau bod ein casgliadau sydd yn y parth cyhoeddus ar gael i bawb i’w mwynhau, i gael eu hysbrydoli ac at ddibenion ymchwil. Credwn fod mabwysiadu strategaeth mynediad agored yn caniatáu i bawb gael mynediad at ein casgliadau ac i’w defnyddio mewn ffyrdd arloesol. Mae hyn yn cynnwys gweithiau celf yn y parth cyhoeddus sydd wedi’u digideiddio, a ffotograffau hanesyddol yn ein casgliadau cymdeithasol, diwydiannol ac archaeolegol.

Mae trwyddedu agored yn fenter gyffrous i ni oherwydd rydyn ni’n cael rhannu ein casgliadau gyda chi mewn ffyrdd newydd. Y peth gorau yw, gallwch lawrlwytho delweddau cydraniad canolig AM DDIM i’w defnyddio ar gyfer unrhyw beth a ddewiswch, gan gynnwys unrhyw ddefnydd masnachol.

Mae ein delweddau cydraniad canolig ar gael am ddim drwy drwyddedau agored Comin Creu; sef naill ai CC0 neu CC BY-SA. Os oes angen delweddau cydraniad uchel arnoch, gallwn gynnig rheini hefyd, ond efallai y codir ffi amdanynt, ebostiwch delweddau@amgueddfacymru.ac.uk

5. Beth yw CC0?

Os yw gwaith celf neu ffotograff allan o hawlfraint, yna rydyn ni’n cynnig delweddau cydraniad canolig (hyd at 4000px) am ddim drwy drwydded agored Comin Creu CC0. Nid yw Amgueddfa Cymru yn hawlio hawlfraint ar yr atgynhyrchiad digidol mae wedi’i greu o weithiau fflat.

Mae CC0 yn galluogi ail-ddefnyddwyr i ddosbarthu, ailgymysgu, addasu ac adeiladu ar y deunydd mewn unrhyw gyfrwng neu fformat, heb unrhyw amodau.

Nid oes rhaid i chi roi cydnabyddiaeth i ni, ond gofynnwn i chi roi cydnabyddiaeth lle bo modd drwy ddefnyddio Drwy ganiatâd Amgueddfa Cymru. Mae hyn yn helpu i ledaenu’r gair am ein Polisi Agored. Y mwyaf o ddiddordeb y gallwn ei greu, y mwyaf o amser y gallwn ei roi i’r prosiect, a’r MWYAF O DDELWEDDAU AM DDIM y gallwn eu cynnig.

6. Beth yw CC BY-SA 4.0?

Os yw’r gwaith celf neu’r ffotograff yn dal i fod o dan hawlfraint ac Amgueddfa Cymru sy’n berchen ar yr hawlfraint, neu os ydyn ni’n dal hawlfraint ar gyfer atgynhyrchiad digidol o waith neu wrthrych tri dimensiwn, mae CC BY-SA yn golygu ein bod wedi codi’r holl gyfyngiadau ar ddefnyddio delweddau cydraniad canolig hyd at 4000px.

Mae CC BY-SA yn galluogi ail-ddefnyddwyr i ddosbarthu, ailgymysgu, addasu ac adeiladu ar y deunydd mewn unrhyw gyfrwng neu fformat at ddefnydd masnachol ac anfasnachol, cyn belled â bod cydnabyddiaeth yn cael ei roi i’r crëwr ac i ni drwy ychwanegu Drwy ganiatâd Amgueddfa Cymru at y gydnabyddiaeth. Os ydych chi’n ailgymysgu, yn addasu, neu’n adeiladu ar y deunydd, rhaid i chi drwyddedu’r deunydd sydd wedi’i addasu o dan yr un telerau.

7. Sut mae chwilio am ddelweddau?

Gallwch chwilio am unrhyw derm sydd o ddiddordeb i chi drwy’r blwch chwilio cyflym. Dyma’r blwch mawr ar y dudalen hafan, neu’r blwch chwilio ar ochr dde uchaf pob tudalen. Bydd y system yn chwilio drwy’r holl wybodaeth sydd ar gael yn y gronfa ddata i ddod o hyd i ddelweddau sy’n cynnwys y term.

Er mwyn creu chwiliad mwy penodol, defnyddiwch AC rhwng termau h.y. castell AC Sir Benfro. Neu gallwch ddefnyddio’r nodwedd Chwiliad Manwl (gweler isod)

8. Sut mae cynnal chwiliad manwl?

Mae nodwedd Chwiliad Manwl ar gael. Cliciwch ar y tair llinell lorweddol ar ochr chwith uchaf pob tudalen i agor y ddewislen. Dewiswch Chwiliad Manwl a chwiliwch yn ôl Teitl, Crëwr, Allweddeiriau, Lle neu Ddyddiad. Mae opsiwn ar frig y ffenestr i chwilio am ddelweddau gyda naill ai yr holl feini prawf, neu o leiaf un.

Defnyddiwch y gwymplen i ddewis a ydych chi am i’ch canlyniadau gynnwys y term, cyfateb yn union iddo, neu ddechrau, neu orffen, gyda’r term rydych chi wedi’i nodi.

h.y. bydd Teitl yn cynnwys “Davies dim ond yn chwilio am eitemau lle mae Davies wedi’i gynnwys yn y Teitl (fwy na thebyg mai ffotograff neu baentiad o rywun o’r enw Davies fydd yn ymddangos) a bydd yn diystyru paentiadau gan artistiaid neu ffotograffwyr gyda’r enw Davies.

9. Anfon adborth

Ydych chi am weld rhagor o gasgliadau penodol? Neu efallai nad yw rhywbeth ar y wefan yn gweithio i chi? Cofiwch y gallwch gysylltu â ni bob amser drwy delweddau@amgueddfacymru.ac.uk. Rydyn ni’n adolygu sut i wneud pethau’n haws i chi yn barhaus. Os oes gennych unrhyw syniadau ynghylch sut i wella’r wefan, cysylltwch â ni, a bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych!

10. Pam mae’r wybodaeth gyd-destunol yn fwy cyfyngedig ar gyfer rhai cofnodion o’i chymharu ag eraill?

Mae Delweddau Amgueddfa Cymru yn defnyddio data casgliadau Amgueddfa Cymru. Rydyn ni’n adolygu ac yn diweddaru ein cofnodion yn barhaus ac yn gweithio ar ychwanegu rhagor o wybodaeth gyd-destunol drwy’r amser. Os oes gennych unrhyw adborth a allai fod o gymorth i ni, bydden ni wrth ein bodd pe baech yn cysylltu â ni drwy e-bost delweddau@amgueddfacymru.ac.uk.

11. Polisi tynnu i lawr

Os bydd gweinyddwyr gwefannau Amgueddfa Cymru yn cael gwybod am achos posib o dorri hawlfraint, neu hawliau eraill, neu os byddant yn derbyn cwyn am dorri rheolau cyhoeddwyr neu bryder perthnasol arall, caiff yr eitem(au) dan sylw eu tynnu oddi ar y gwefannau cyn gynted â phosib tra bo ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal.

Os ydych chi’n ddeiliad hawliau ac yn pryderu eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd ar ein gwefan nad ydych wedi rhoi caniatâd ar ei gyfer, neu nad yw wedi’i gynnwys gan gyfyngiad neu eithriad yng nghyfraith y Deyrnas Unedig, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen ymholiadau ar-lein gan nodi’r canlynol:

  • Eich manylion cyswllt
  • Disgrifiad o’r deunydd
  • Cyfeiriad y wefan lle daethoch o hyd i’r deunydd
  • Natur y gŵyn
  • Datganiad yn nodi mai chi yw perchennog yr hawliau neu eich bod wedi’ch awdurdodi i weithredu ar ran perchennog yr hawliau. Mae’n bosib y bydd gofyn i chi ddarparu prawf o’r berchnogaeth hon a allai gael ei ddefnyddio mewn llys barn.

Mae gweithdrefn ‘Hysbysu a Thynnu i Lawr’ Amgueddfa Cymru ar gael yma.