Mae casgliad dillad Amgueddfa Cymru yn cynnwys popeth o ddillad gwaith i ffrogiau dylunydd, gwisgoedd swyddogol i ffrogiau priodas. Mae gan y dillad hyn arwyddocâd personol a chenedlaethol, ac yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol a diwylliannol dros gyfnod o 300 mlynedd.