Ym 1884 symudodd Pissarro i Eragny i'r dwyrain o Rouen. Cafodd y cyfansoddiad hwn ei ysgogi gan olygfeydd harbwr gan Claude a Turner yn yr Oriel Genedlaethol. Peintiwyd yr olygfa hon o'r machlud dros afon Seine yn Rouen o ffenestr uchaf yr Hôtel de l'Angleterre, ac mae'n dangos llongau ac adeiladau'r harbwr drwy fwg diwydiant. Hawliai Pissarro fod golygfeydd felly o afonydd 'cyn hardded â Fenis.' Roedd Margaret Davies yn gyfarwydd iawn â Rouen gan iddi fod yn gweithio yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Prynodd yr olygfa hon ym 1920.