Mae'n debyg i'r gwaith hwn gael ei beintio yng ngardd y tŷ yn Essoyes ym Mwrgwyn lle byddai Renoir yn treulio pob haf o 1898. Mae'r lliwiau cynnes yn nodweddiadol o arddull ddiweddar Renoir. Mae'r pwnc bugeiliol yn edrych yn ôl, y tu hwnt i 'Dejeuner sur l'herbe' gan Manet, at gelfyddyd y Dadeni yn Fenis. Cafodd ei brynu gan Gwendoline Davies ym Mharis ym 1917.