Mae hanes Cymru dros y 150 mlynedd diwethaf wedi cael ei ddominyddu gan dwf a dirywiad diweddarach y diwydiant glo. Oherwydd y galw am lo Cymru, tyfodd cymunedau newydd mewn ardaloedd yn y gogledd a’r de fu gynt â phoblogaethau bach. Dros y cyfnod yma, bu tua 3,000 o byllau glo yn gweithio yng Nghymru. Erbyn 1913, roedd tri chwarter poblogaeth Cymru yn byw yn ardaloedd y meysydd glo, gan gynnwys, ym 1921, chwarter miliwn o lowyr.