Rhwng mis Rhagfyr 1900 a'i farw byddai Pissarro yn lletya bob yn awr ac yn y man yn 28 Place Dauphine ar ochr ogleddol Ile de la Cité ym Mharis. Daw'r olygfa hon o eira gyda char modur, cerbydau a cherddwyr gydag ymbarelau yn croesi Pont Neuf o'r ail gyfres o olygfeydd o'r bont a beintiwyd ganddo o ffenestr ei lety yn ystod y cyfnod hwnnw. Prynwyd y gwaith gan Margaret Davies ym 1920.