Ar ôl cael hyfforddiant academaidd ym Mharis, ym 1888 daeth Moret yn gyfeillgar â Gauguin a'i gylch, a fyddai'n gweithio yn Pont Aven ar arfordir de Llydaw. Mae'n debyg fod yr olygfa hon o res o fythynnod to gwellt yn dyddio o ymweliad Moret ym 1898 â Clohars-Carnoët, un o'i hoff fannau ger Pont Aven. Mae'r lliwiau llachar a'r dechneg doredig yn dangos ei ddyled i Gauguin a Monet. Prynwyd y gwaith hwn gan Margaret Davies ym 1959.