Mae'r olwg bell a hiraethus ar wyneb y ferch yn cyferbynnu â'r gwyddau bywiog sy'n clegar a nofio y tu ôl iddi. Yn y cefndir gwelir tai Gruchy, pentref genedigol Millet yn Normandi. Cafodd y darn hwn ei beintio ar ôl ei ymweliad cyntaf â'r ardal mewn deng mlynedd bron. Mae rhyw ymdeimlad hiraethus yma, yn wahanol i'w luniau diweddarach a beintiodd yn Barbizon yng nghoedwig Fontainebleau.