Ganed Le Sidanier yn nhalaith Ffrengig Mauritius a maged ef yn Dunkirk. Cafodd ei hyfforddi ym Mharis ac ym 1898 bu yn Bruges, lle mabwysiadodd Argraffiadaeth fel techneg weithio. Mae i'w olygfeydd o drefi, sydd fel rheol yn amddifad o ffigyrau dynol, naws Symbolaidd o dristwch. Mae'r gwaith hwn yn darlunio'r harbwr yn Heyst, tref i'r gogledd o Zeebrugge yng Ngwlad Belg.