Canaletto oedd y peintiwr mawr cyntaf ar olygfeydd Fenis i arbenigo ar dirluniau topograffyddol a dychmygol. Byddai ymwelwyr Prydeinig â Fenis yn awyddus iawn i brynu ei luniau, a threuliodd o 1746-55 yn Lloegr. Mae'n debyg i'r llun hwn gael ei lunio tua 1730. Mae'n dangos golygfa o ynys Guidecca tuag at 'Fasn Sant Marc' gyda phrif adeiladau cyhoeddus Fenis, sef y Tolldy, Y Campanile, Basilica Sant Marc a Phalas y Doge.