Mae'r braslun olew hwn sy'n dangos tref Pozzuoli, ger Napoli, yn naturiol, anffurfiol ac yn drawiadol o ffres. Ond, fel nifer o artistiaid eraill o'r cyfnod, ni wnaeth Penry Williams erioed feddwl y byddai astudiaethau o'r math yn cael eu gweld yn gyhoeddus. Un tro dywedodd wrth ei noddwr, Joseph Bailey, y byddai ei gasgliad o frasluniau bach anorffenedig "yn ddefnyddiol i mi yn unig, a heb fod o unrhyw ddiddordeb i chi".