Gwelai Nash y flwyddyn 1928 fel blwyddyn o 'weledigaeth ac arddull newydd'. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno bu'r arlunydd metaffisegol Eidalaidd Giorgio de Chirico yn arddangos ei waith yn Llundain ac mae ei ddylanwad i'w weld yn amlwg yn y darlun ffurfiol a llym hwn. Yn ystod y 1930au câi ei alw Y Tŵr Mwraidd, Cros de Cagnes ar ôl canolfan ger Nice lle'r oedd yr arlunydd eisoes wedi aros ym mis Ionawr 1925. Mae'n bosibl fod syniad o alcemyddiaeth yn y cyfansoddiad swreal hwn o ffynnon dŵr croyw wrth ymyl y môr hallt.