Ar ôl iddo fynd yn fethdalwr ym 1879, treuliodd Whistler flwyddyn yn Fenis gan ganolbwyntio ar ysgythriadau a darluniau pastel. Tri darlun olew yn unig, wedi eu cynhyrchu o'r cof yn y nos gan mwyaf, sydd wedi goroesi o'r ymweliad hwnnw. Mae'r olygfa anarferol hon yn cynnwys y Torre' del Orologio ar y chwith. Mae porth mwyaf deheuol Eglwys Sant Marc wedi ei dorri i ffwrdd ar y dde. Lampau nwy yw'r pwyntiau gwyn llachar. Dywedodd Whistler unwaith mai hwn oedd y gorau o'i nosluniau. Prynwyd ef gan Gwendoline Davies ym 1912.