Roedd gan W.R Sickert lety a stiwdio yn Mornington Crescent, y tu ôl i Orsaf Euston, ym 1905. O 1909 cafodd y stryd anffasiynol hon ei pheintio droeon gan gyfaill Gilman, Spencer Gore. Mae'r darlun hwn o tua 1912 yn dangos cefn Mornington Crescent, o ardd 247 Hampstead Road, mae'n debyg, lle'r oedd gan Sickert stiwdio arall. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1934.