Astudiaeth o olau yn hytrach na'r dirwedd yw hon. Roedd gan Daubigny gwch arbennig o'r enw 'Le Botin' wedi'i addasu'n stiwdio, a byddai'n rhwyfo hwn i ganol yr afon. Oddi yma, gallai werthfawrogi effaith lawn yr awyr yn adlewyrchu ar y dŵr. Yn arloeswr peintio yn yr awyr agored, cafodd ddylanwad allweddol ar Argraffiadwyr fel Claude Monet.