Yn ystod yr haf 1907, bu Friesz yn peintio gyda Georges Braque yn nhref La Ciotat ar y Môr Canoldir rhwng Marseilles a Toulon. Arferai'r gwaith Fauvaidd lliwgar hwn fod yn eiddo i Hugh Blaker, cynghorydd celf y chwiorydd Davies, a phrynwyd y gwaith gan ystâd ei chwaer gan Margaret Davies ym 1948.