Bu Constable yn astudio yn Ysgolion yr Academi Frenhinol a datblygodd dechneg fyrfyfyr. Ynghyd â J.M.W.Turner, roedd yn ffigwr allweddol ym myd peintio tirluniau ym Mhrydain.Mae'r darlun bach dwys hwn o fwthyn ger man ei eni yn East Bergholt yn Suffolk yn deillio o fraslun a wnaed ym 1815. Cafodd ei arddangos yn yr Academi Frenhinol a'r Sefydliad Prydeinig ym 1817-1818, a gwerthodd Constable ef i W. Venables, a fu wedyn yn Arglwydd Faer Llundain, am 20 gini ym 1818.