Clytwaith ‘ar hap’ wedi'i greu o garpiau sidan. Gwnaed ym Maentwrog, dechrau’r 1900au. Cafodd ei greu heb dempledi. Mae’r gwneuthurwr wedi pwytho siapiau o ddefnydd ar ddefnyddiau cefnu. Defnyddiau moethus, fel melfed neu sidan, sy’n cael eu defnyddio fel arfer ar glytwaith ar hap. Mae brodwaith cwlwm Ffrengig a phwythau plu ar yr enghraifft yma.
Roedd clytweithiau ar hap yn boblogaidd iawn tua diwedd y 1800au, yn enwedig yn America.