Clogyn gwlanog du hyd at y fferau, gyda gwarfantell ag ymylon bredwaith du. Wedi'i gau â bachyn a dolen a botymau wedi'u gorchuddio. Mae enw'r gwisgwr, M LENNOX, wedi'i frodio â phwythau croes yng nghanol y cefn. Gwisgwyd gan Muriel Lennox, nyrs VAD ac aelod o Gymdeithas Ambiwlans Sant Ioan, Adran Nyrsio y Barri.