Bwrdd derw hirgron mewn tair rhan. Mae’r arysgrifen ar draws yr wyneb ‘Brenhin-bren Y Ganllwyd’ yn gyfeiriad at y goeden dderw adnabyddus o’r Ganllwyd, ger Dolgellau, sir Feirionnydd. Diwreiddiwyd y goedon yn y flwyddyn 1746 a gwnaed celfi o’r canghennau, yn cynnwys y bwrdd yma ar gyfer Fychaniaid Nannau a Hengwrt.