Cadair farddol derw a enillodd Iorwerth C Peate yn Eisteddfod Myfyrwyr Cymru, Aberystwyth ym 1921. Mae llofnod y crefftwr Emile De Vynck wedi ei gerfio ar y cefn. Ffoadur o Wlad Belg oedd De Vynck a ddaeth i Gymru o Mechelen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd De Vynck a'i deulu, a Belgiaid eraill, loches ym Mentrefelin, ger Cricieth yn un o gartrefi Lloyd George. Fe luniodd De Vynck gadeiriau barddol eraill a darnau cerfiedig o bren sydd wedi aros mewn adaeiladau o fewn yr ardal.