Ym 1866 cynhaliwyd 'Eisteddfod y Cymry', yng Nghastell-nedd. Bwriad yr eisteddfod yma oedd gwneud safiad yn erbyn y Seisnigo o fewn yr Eisteddfod Genedlaethol, er na fu'n llwyddiant.
Mae'r gadair hon yn wahanol i gadeiriau'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n gadair gyfforddus wedi'i chlustogi ac mae'n debygol cafodd ei gwneud yn lleol ar gyfer yr achlysur, o dderw gyda mes cerfiedig.
Mae enw'r eisteddfod a'r enillydd, Hwfa Môn (Rowland Williams), wedi eu engrafu ar y placiau arian ar gefn y gadair. Enillodd sawl cadair a choron eisteddfodol yn ogystal â beirniadu'r cystadlaethau. Roedd ganddo gryn bresenoldeb wrth areithio ac etholwyd ef yn Archdderwydd o 1895 hyd ei farw ym 1905.