Cadair Eisteddfod Ffair y Byd Chicago a chynhaliwyd ym 1893 yn rhan o ffair ryngwladol i ddathlu 400 mlwyddiant glaniad Columbus yn yr Amerig. Dyluniwyd y gadair gan Isaac Davies o Chicago - mae'n cynnwys eryr Americanaidd gerfiedig ar frig y gadair, telyn Gymreig a'r Tair Pluen ar y cefn. Aeth y gadair i Evan Rees (Dyfed), enillydd deg cadair cyn hynny. Bu'n Archdderwydd o 1905 hyd ei farwolaeth ym 1923.
Ymwelodd tua 40,000 o bobl â'r Eisteddfod dros bedair diwrnod, yn bennaf o hufen gymdeithas Cymry-America. Ond beirdd, cerddorion a chorau o Gymru a enillodd y rhan fwyaf o'r cystadlaethau.