Cadair a gyflwynwyd yn eisteddfod lleol Tregaron 1876 i'r bardd Ioan Gwent (John Watkins) o Gilfach Goch am ei gerdd ar y testun 'Gwlith'. Enillodd wobr ariannol o £10 hefyd. Cynhaliwyd yr eisteddfod mewn pabell fawr yn y dref ac ymwelodd yr AS David Davies Llandinam y digwyddiad.
Mae'n gadair dderw syml yn dilyn dyluniad cadeiriau byddai wedi eu gweld mewn cartrefi a chapeli y cyfnod. Mae'n debygol cafodd ei gwneud gan saer lleol gyda darn llydan ar y cefn i nodi lleoliad a dyddiad yr eisteddfod.