Roedd Steer yn un o brif gynrychiolwyr Agraffiadaeth yn Lloegr, ac ymhlith ei fyfyrwyr yn Ysgol Gelfyddyd y Slade yr oedd Augustus a Gwen John a J.D.Innes. Hwn yw'r cyntaf o nifer o beintiadau o Lilian Montgomery. Nid model broffesiynol oedd hi, ac yma mae'n bedair ar ddeg oed ac wedi ei gwisgo yn ffasiwn Paris ym 1904.