Mae Wood yn bennaf adnabyddus am y paentiadau a gynhyrchodd yng ngorllewin Cernyw a llydaw o 1928-1930. Cafodd saib o bwysau bywyd ym Mharis ar yr arfordiroedd anghysbell yma, a'r porthladdoedd, y strydoedd cobls a'r pysgotwyr fyddai testunau ei weithiau mwyaf trawiadol. Roedd yn medru cyfleu naws ramantus ac ysbrydol tirlun a phobl Cernyw a Llydaw a'u diwylliant Celtaidd drwy ei arddull uniongyrchol, naïf.