Dechreuwyd ar y gwaith hwn ym 1871-72 ond ni chafodd ei orffen. Mae'r olygfa deimladwy yn dangos teulu gwerinol Normanaidd ar glos eu fferm. Mae'n ymgorffori elfen gyntefig a all fod yn deillio o gerflunwaith yr Aifft a darluniau Quattrocento a welodd Millet yn y Louvre. Meddai'r arlunydd Prydeinig Sickert: 'Mae'r dyn tawel a'i gymar difrifol yn wynebu'r gynulleidfa gyda dwysedd a chymesuredd dwy golofn, a'r plentyn, fel Samson bychan, yn dangos cryfder pileri ei dŷ'. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1911.