Gwnaed Edward Lloyd o Bengwern (c.1710 - 1795) yn farwnig ym 1778. Câi ei edmygu gan gyfoedion am blannu 442,000 o goed - coed deri gan mwyaf - ar ei ystadau yn Sir y Fflint a Sir Gaernarfon. Mae ei osgo hamddenol, anffurfiol, sydd mor addas i fonheddwr gwledig, yn nodweddiadol o ddull Wilson o bortreadu.