Mrs Newbery, chwaer Robert Raikes, hyrwyddwr yr Ysgol Sul, oedd gwraig Francis Newbery (1743-1811) o Heathfield Park, Sussex, cyhoeddwr a gwerthwr moddion. Eisteddodd Mrs Newbery ym 1782 a 1784 ar gyfer y portread hwn a chododd Romney £21 amdano, llai na ffi ei brif gystadleuwyr Reynolds a Gainsborough. Mae triniaeth lydan y gwallt, sydd wedi ei frwsio yn ôl y ffasiwn, a'r mwslin yn nodweddiadol.