Peintiwyd y portread hwn tua 1919 ac y mae'n darlunio Anna Zborowska, gwraig y deliwr Leopold Zborowski o Baris. Prynodd Hugh Blaker a Gwendoline Davies ddarluniau yn ei arddangosfa o weithiau Derain, Vlaminck, Modigliani a Picasso yn Llundain ym 1919. Mae'r portread hwn wedi beintio'n denau mewn temperäu gyda gwaith sbwng i feddalu'r lliwiau ymhellach. Prynwyd ef gan Margaret Davies ym 1920.