Mae’r olygfa ddramatig hon o aber afon Mawddach yn edrych tua’r dwyrain a’r tir mawr o gyfeiriad y Llwybr Panorama. Gwelir llethrau serth Cader Idris ar y gorwel a chymylau tywyll yn cuddio’i chopa. Ond yn hytrach na hoelio’i sylw ar y mynydd mawr, mae’r artist wedi canolbwyntio ar effaith y dyfroedd a’r traethellau newidiol ar y golau. Yn wir, mae ei astudiaeth fanwl o’r dirwedd bron yn ffotograffig mewn mannau. Roedd John Ingle Lee yn ddilynwr brwd o’r Cyn-Raffaëliaid a oedd â’u bryd ar gyfleu gwirionedd a grym byd natur.