Yn y paentiad hwn gallwn ni weld un o fynyddoedd Eryri mewn glas a phorffor llachar, gyda chymylau lelog gwlanog yn yr awyr tu hwnt. Does neb i'w weld am filltiroedd ym mhrydferthwch gwyllt y cornel hwn o Gymru.
Roedd Christopher Williams, a anwyd ym Maesteg, yn un o baentwyr pwysicaf ei oes yng Nghymru. Paentiodd nifer o dirluniau ledled Cymru a thu hwnt.