Yn eistedd ar ben brigiad creigiog fry uwch Bae Tremadog, prif nodwedd Castell Cricieth yw’r porthdy deudwr a adeiladwyd gan Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr). Estynnwyd y castell gan Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), ac fe’i ailwampiwyd yn ddiweddarach gan Edward I ac Edward II. Mae Williams yn darlunio’r castell ar ddiwrnod llonydd o haf.