Dyma olygfa o gastell y Waun ger Wrecsam, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Peintiodd Steer y llun yma ym 1916, pan oedd yn westai i'r Arglwydd Howard de Walden, Cymro ac ysgolhaig oedd yn noddwr brwd i'r byd celf. Roedd gan Steer diddordeb mawr yn nhirlunwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel Turner a Constable. Peintiwyd cymylau llachar y machlud stormus yma'n gyflym, gan ddwyn i gof y ffordd yr oedd yr artistiaid hyn yn ymdrin â goleuni ac effeithiau atmosfferig.