Mae mynyddoedd y Carneddau i’r dwyrain o Bencerrig, cartref teulu Thomas Jones yn Sir Faesyfed. Maent yn nodedig oherwydd eu hamlinelliad cribog. Roedd Jones wrth ei fodd ar y dirwedd o amgylch ei gartref, ac ysgrifennodd am ‘fynyddoedd pell yn toddi i’r awyr’. O 1794-5 ymlaen cynhyrchodd Jones grŵp o saith golygfa dyfrlliw o’r Carneddau. Tynnwyd yr olygfa hon tua 1775, o islaw cartref Jones ym Mhencerrig, yn agos at glwstwr o dderi ac yn edrych i’r de-ddwyrain tuag at mynyddoedd y Carneddau. Mae’r gwaith yn y blaendir braidd yn amrwd, ond mae’r niwl ar y bryniau a’r heulwen ar y caeau ar y llaw dde wedi eu cyfleu yn fedrus ac yn llawn awyrgylch. Mae’r rhedyn fel pe bai’n crino ar y bryniau.