Ganed Pocock yn Lerpwl a chafodd ei brentisio gydag adeiladwr llongau gan weithio fel capten ar y môr. Tua 1780 cafodd ei annog gan Joshua Reynolds i droi at beintio'n amser llawn. Arbenigai ar bynciau morwrol, ac ym 1789 symudodd i Lundain lle roedd yn aelod sylfaenol o'r Gymdeithas Lluniau Dyfrlliw. Dangoswyd yr olygfa hon yn y Sefydliad Prydeinig ym 1808. Mae triniaeth wastad, gyweiraidd y darlun olew yn adlewyrchiad o hoffter yr arlunydd o weithio mewn dyfrlliw.