Yma mae Wilson yn gor-bwysleisio rhediad yr afon ac adlewyrch y dŵr o amgylch Castell Penfro. Ychydig iawn o falchder a ddangosodd y Cymru at eu tirwedd eu hun ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Fodd bynnag gwnaeth Wilson lawer i boblogeiddio delweddau o Gymru. Fe glasureiddiodd y tirwedd, gan ei ddarlunio fel paradwys gwledig yn frith o adfeilion hanesyddol. Mae'n debyg i'r darlun gael ei gomisiynu gan William Vaughan o Gorsygedol, un o brif dirfeddianwyr y gogledd a llywydd cyntaf Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.