Golygfa ar aber Afon Taf yn Nhalacharn ger man geni'r arlunydd yng Nglanyfferi, Dyfed. Seiliodd Lewis ei ddarlun ar ffotograff du a gwyn, gan sgwario hwnnw a throslunio amlinelliad o'r olygfa. Dysgodd y dechneg hon oddi wrth ei athro, W.R. Sickert, a fyddai'n aml yn defnyddio ffotograffau yn sail i'w gyfansoddiadau.