O'r bont Japaneaidd yn ei ardd ddŵr gallai Monet gael golygfan uchel ar y dŵr a phlaen darlun cyfatebol uwch, heb i lan y dŵr darfu arno. Mae wyneb llyn sy'n adlewyrchu a phlanhigion yn nofio ar yr wyneb fel pe bai'n creu gofod diderfyn. Ym 1908 meddai: 'Mae'r tirluniau hyn o ddŵr ac adlewyrchiad wedi llenwi fy mryd...ac eto rwyf am allu cyfleu yr hyn a welaf.' Mae hwn yn un o dri darlun gan Monet o'r lili ddŵr (nymphas) a brynwyd gan Gwendoline Davies ym Mharis ym 1913.