Peintiodd Monet yr olygfa hon o'r Palazzo Dario, ger ceg y Gamlas Fawr, mewn sawl sesiwn, mae'n debyg yn ystod ei gyfnod 'troisième motif' rhwng dau a phedwar o'r gloch y prynhawn. Mae llawr uchaf a hanner chwith tu blaen y Palazzo Barbaro-Wolkoff y drws nesaf wedi eu tocio gan ymylon y cynfas - dyfais gyfansoddiadol a darddai o doriadau pren Siapaneaidd. Mae gondola yn nodi'r llinell rhwng y palas a'i adlewyrchiad. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym Mharis ym 1913.