Tŷ dryw a ddefnyddiwyd i 'hela'r dryw' ar Nos Ystywyll.
Traddodiad yn perthyn i ambell ardal yng Nghymru oedd y Tŷ Dryw. Yn ôl y sôn, ar Noson Ystwyll, rhoddid dryw marw yn y tŷ a’i gario o le i le er mwyn dymuno blwyddyn newydd dda. Erbyn hyn mae’r arferiad lleol hwn, fel Y Fari Lwyd, wedi ei fabwysiadu yn draddodiad cenedlaethol gan gymdeithasau Cymreig.