Llwy garu fedw o orllewin Cymru.
Roedd llanc yn creu llwy garu yn rhodd i’w gariad. Datblygodd yr arfer o roi llwyau caru o’r traddodiad o gerfio llwyau bob dydd i’r cartref. Cerfio llwy garu gymhleth a chain o un darn o bren gan ddefnyddio offer syml iawn oedd y grefft. Erbyn heddiw, mae cerfwyr pren masnachol yn creu llwyau caru i’w gwerthu fel anrhegion neu gofroddion, neu ar gyfer dathliadau teuluol.