Telyn deires a wobrwywyd gan Lady Llanover yn Eisteddfod Y Fenni, 1848. Fel aelod nodedig o Gymreigyddion y Fenni, sefydlodd Lady Llanover gystadlaethau i delynwyr yn eu eisteddfodau. Yn hytrach na derbyn medal neu arian fel gwobr, byddai'r enillydd yn cael telyn newydd. Cafodd y delyn hon ei hennill gan Edward Hughes (Eos Maldwyn) yn 1848.