Gwyntell neu gintell o bren collen a helyg. Ar un adeg, roedd gan bob cymuned amaethyddol fasgedwr. Ychydig iawn o offer oedd eu hangen arnynt, ond roedd creu basgedi at ddefnydd bob dydd ar y fferm yn dipyn o grefft. Un o’r crefftwyr hyn oedd y ffermwr James Walters o Ffarmers, ger Llanbedr Pont Steffan. Creodd y wyntell neu gintell hon o bren helyg a chollen wedi’i hollti. Fe’i defnyddiwyd ar gyfer pob math o bethau, gan gynnwys bwydo anifeiliaid fferm.