Cerfiad dull cynhenid o Fawrth, duw rhyfel y Rhufeiniaid, 60-300 CC.
Gan amlaf, carreg leol a ddefnyddiwyd ar gyfer cerfluniau Rhufeinig. Anaml iawn y câi ei symud yn bell iawn, oni bai bod modd ei symud dros ddŵr. Daw’r cerfiad hyn o gaer Segontium ger Caernarfon. Duw rhyfel y Rhufeiniaid oedd Mawrth. Roedd yn boblogaidd iawn ymhlith y milwyr Rhufeinig. Mae’r lluniau ohono’n ei ddangos mewn arfwisg gyda helmed â chrib, weithiau’n gafael mewn tarian a gwaywffon.