Dysgl crochenwaith Samiaidd. Daeth i’r fei yng nghaer Segontium, ger Caernarfon. 70-110 OC.
Roedd y Rhufeiniaid yn masgynhyrchu crochenwaith. Gan fwyaf, crochenwaith a gynhyrchwyd yn lleol oedd yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru, ond mewnforiwyd y slipwaith sgleiniog coch yma o Gâl, sef Ffrainc erbyn hyn.