Cwpan grochenwaith Rufeinig o Holt, Wrecsam, 80-250 OC.
Roedd y fyddin Rufeinig yn masgynhyrchu’r crochenwaith hwn yn Holt. Sefydlwyd odynnau ar lan orllewinol afon Dyfrdwy i wasanaethu’r Ugeinfed Leng yng Nghaer. Roedden nhw’n gallu symud y crochenwaith dros y dŵr i’r ddinas. Crochenwaith orengoch oedd y rhan fwyaf ohono ond cafodd peth crochenwaith gwyrdd wedi’i wydro’n gain ei gynhyrchu hefyd.